Achlysuron a Digwyddiadau
Mae'r LC yn lleoliad gwych ar gyfer dathliadau. Gyda chysylltiadau da â chludiant cyhoeddus lleol, mynediad hwylus i'r M4, a hefyd maes parcio ar y safle, mae'r LC yn lleoliad cyfleus a chyffrous ar gyfer digwyddiadau corfforaethol, cyfarfodydd busnes, partïon pen-blwydd neu achlysuron arbennig.
Mae gennym amrywiaeth o ystafelloedd ar gael i'w hurio beth bynnag yw'ch gofynion a nifer y gwesteion, a gallwn ddarparu pob math o brydau o'r rhai bys a bawd bach i giniawau llawn.
Yn ogystal, mae ein neuadd amlbwrpas â seddi haenog cynhenid hefyd ar gael i'w hurio'n breifat gan grwpiau chwaraeon a'r rhai heb gysylltiad â chwaraeon sy'n chwilio am unrhyw fath o leoliad ar gyfer digwyddiad.
Hyd yn hyn rydym wedi cynnal, ymhlith eraill, gornest Bocsio Amatur Rhyngwladol, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Coastal Housing, cystadleuaeth y sefydliad United Dance a Ffair 'Cael Swydd' gorsaf radio y Wave.
"Ardderchog! Roedd y diwrnod cyfan yn llwyddiant mawr ac roedd y staff yn wych." Caroline Williams o Coastal Housing.
Os ydych yn chwilio am rywle i gynnal digwyddiad, e-bostiwch laura.bell@the-lc.co.uk neu ffoniwch Laura Bell ar 01792 484711 am fwy o wybodaeth.
Cliciwch ar y man perthnasol i weld golygfeydd 360° o'r Neuadd Chwaraeon ac Arddangos, yr Ystafell Achlysuron a'r Stiwdio.
