Pwll a Llithrennau

Croeso i brif atyniad yr LC a'r diwrnod mas gorau i'r teulu yn ne Cymru!

Mae parc dŵr yr LC yn sicr o fod yn boblogaidd iawn ymhlith ymwelwyr o bob oedran gyda'i rwydwaith o byllau a sleidiau a fydd yn rhoi gwefr fwyaf eich oes i chi! Dyma rai o'r nodweddion arbennig…

Y Masterblaster: Y sleid ddŵr droellog wefreiddiol ddigyffelyb sy'n gwthio reidwyr ar gyflymdra uchel i fyny llethrau serth ac i lawr disgyniadau mawr ar gylch rwber.

Yr Afon Ddiog: Afon droellog sy'n cario nofwyr yn y dŵr i'r pwll tonnau.

Pwll rhyngweithiol: Yn berffaith i blant iau ynghyd â sleid fach, bwcedi dymchwel a ffynhonnau.

A hefyd… y sleid ddŵr, y tiwb dŵr, y pwll tonnau, y trobwll a morlyn yr LC!

Os nad yw hyn i gyd yn ddigon, hwyrach y gallwch weld cymeriad unigryw yr LC, Tommy'r Crwban Môr, sy'n dwlu ar dasgu dŵr yn y parc dŵr! Dewch i weld Tommy a lawrlwytho gemau gwych Tommy yn ystod Amser Tommy!

Pen-blwydd ar y gorwel? Trowch eich ymweliad â'r parc dŵr yn barti!

Rydym yn croesawu grwpiau o bob maint i barc dŵr yr LC ac yn cynnig gostyngiadau i grwpiau mawr sy'n ystyried ymweliad. Darllenwch ein Gwybodaeth Trefnu Grŵp nawr!

Opening Times & Prices

Yn ystod y tymor ysgol:

Dydd Llun - dydd Gwener: 4.00pm – 9.00pm

Dydd Sadwrn – dydd Sul: 9.00am – 8.00pm

Gwyliau Ysgol a Banc:

Dydd Llun – dydd Sul: 9.00am – 8.00pm

Diwrnodau HMS ysgolion lleol: 11.00am – 7.00pm

Oedolion: £7 (£6 ar gyfer deiliaid Cerdyn Preswyliwr Abertawe)

Plant (4-15 oed): £4

Plant (3 oed ac yn iau): AM DDIM

Pensiynwyr/Deiliaid cardiau PTL: £3

Myfyrwyr: £4 (gyda phrawf dilys o fod yn fyfyriwr)

(Sesiwn 2 awr yw profiad y Parc Dŵr)

(Derbynnir talebau cynigion Clubcard Tesco – Casglwch eich talebau cynigion yma)

Trefnwch eich ymweliad ymlaen llawn trwy ffonio 01792 466500 (opsiwn 2 yna opsiwn 6)

More Information

Mae isafswm taldra o 1.1 metr ar gyfer pob sleid ddŵr.

Rheolau'r Pwll:

Rhaid i blant gael eu goruchwylio yn unol â'r cymarebau oedolyn*/plentyn canlynol:

Mae angen un oedolyn i oruchwylio un plentyn 0-4 oed.

Mae angen un oedolyn i oruchwylio dau blentyn rhwng 5-7 oed.

Er y gall plant 8+ oed ddefnyddio'r pwll heb fod yng nghwmni oedolyn, rhaid goruchwylio unrhyw blentyn yn y dŵr nad yw'n nofiwr hyderus ar bob adeg beth bynnag yw ei oedran.

Rhaid i blant dan 2 oed wisgo cewyn nofio.

Gellir prynu goglau, dillad nofio, tywelion, bandiau breichiau ac ategolion pwll eraill o siop yr LC yn y brif dderbynfa (neu gallwch bori trwy ein Siop Ar-lein).)