Hanes yr LC
Os cofiwch, Canolfan Hamdden Abertawe oedd un o'r atyniadau twristiaid mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae ei lleoliad, ei maint a'i threftadaeth i gyd yn diffinio ei statws fel un o'r adeiladau mwyaf adnabyddus yn Abertawe.
Roedd y ganolfan hamdden wreiddiol, a agorwyd gan y Frenhines wrth ddathlu ei jiwbilî arian ym 1977, yn cynnwys cyfleusterau modern ac arloesol megis y peiriant tonnau cyntaf i gael ei osod mewn canolfan hamdden yng Nghymru. Daeth yn un o gyfleusterau hamdden gorau Cymru ac yn atyniad sylweddol i dwristiaid. Ar ei hanterth, roedd yn denu mwy nag 800,000 o ddefnyddwyr bob blwyddyn.
Caewyd Canolfan Hamdden Abertawe yn 2003, a olygodd golli atyniad ymwelwyr tywydd gwlyb pwysig lle roedd teuluoedd a phobl o bob oedran yn gallu mwynhau amrywiaeth o weithgareddau hamdden. Yn dilyn adolygiad o'r dewisiadau posib, penderfynodd y Cyngor mai adnewyddu'r Ganolfan Hamdden oedd y dewis mwyaf effeithiol, ac yn fuan dechreuwyd y gwaith i ddatblygu'r hen safle yn gyfadeilad hamdden ar gyfer yr 21ain ganrif!
Agorwyd yr LC wedi'i hailenwi a'i hadnewyddu ym mis Mawrth 2008. Mewn teyrnged i'r hen ganolfan, daeth Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Caeredin i Abertawe unwaith eto i agor y cyfleuster.
Mae'r LC newydd ddathlu ei blwyddyn gyntaf o weithredu ac mae eisoes wedi profi ei bod yn gyrchfan poblogaidd i drigolion ac ymwelwyr Abertawe.
