Ymweliadau Grŵp
Rydym yn croesawu grwpiau o bob maint yn yr LC ac i bob 15 o ymwelwyr sy'n talu, bydd y 16eg person yn mynd AM DDIM! Bydd un arweinydd grŵp/athro yn cael lle AM DDIM hefyd!
Mae trefnu eich ymweliad grŵp yn hollol ddidrafferth - y cyfan mae angen i chi ei wneud yw ffonio ein Tîm Grwpiau a Digwyddiadau ar 01792 484711 a byddwn yn eich helpu i gynllunio'ch ymweliad. Os ydych yn ystyried opsiynau am ddiwrnod mas neu ychydig o oriau o hwyl yn unig - mae gennym bopeth dan yr unto!
O'n tonnau gwlyb a gwyllt i'n wal ddringo uchel a sych, mae croeso i grwpiau gadw lle ar gyfer unrhyw nifer o weithgareddau LC y gallwn eu darparu ar eich cyfer hyd yn oed y tu allan i'n horiau agor arferol. Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn teimlo fel dod i lawr!
Os ydych yn gwsmer corfforaethol sydd am ddifyrru eich cwsmeriaid mewn ffordd unigryw, neu sy'n chwilio am ffordd o ddiolch i'ch gweithwyr, beth am ystyried Noson Adrenalin Corfforaethol.
Gyda diwrnod mas yn yr LC, bydd angen tanwydd corff arnoch ac rydym yn darparu bwyd bys a bawd blasus neu brydau sylweddol oer neu gynnes i gynnal lefelau egni eich grwpiau!
I drefnu eich ymweliad â phrif atyniad De Cymru neu i ddysgu mwy, ffoniwch ein Tîm Grwpiau a Digwyddiadau ar 01792 484711 neu ein e-bostio i laura.bell@the-lc.co.uk
