Sut i ddod o hyd i ni
Mae'r LC mewn lleoliad cyfleus ar Heol Ystumllwynarth, y brif ffordd i Abertawe o'r dwyrain, o fewn yr Ardal Forol a gerllaw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, lle mae'n hawdd ei hadnabod.
Mewn car
Teithio i'r Gorllewin:
Gadewch yr M4 trwy gymryd Cyffordd 42 a dilyn yr arwyddion tuag at Ganol y Ddinas.
Teithio i'r Dwyrain:
Gadewch yr M4 trwy gymryd Cyffordd 45 neu 47 a dilyn yr arwyddion tuag at Ganol y Ddinas.
Dilynwch yr arwyddion brown i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae arwydd yn nodi maes parcio mawr wrth ochr y cyfleuster.
Cludiant Cyhoeddus
Mae gorsaf drenau Stryd Fawr Abertawe ryw 10 munud o gerdded o'r LC. O'r orsaf, trowch i'r chwith a cherdded i lawr y Stryd Fawr i Erddi'r Castell. O Erddi'r Castell, ewch ar hyd Ffordd y Dywysoges nes cyrraedd yr atyniad.
Mae terminws bysus Abertawe (y Cwadrant) tua 5 munud o'r LC wrth gerdded. Dilynwch yr arwyddion i'r Ardal Forol ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Maes Parcio
Mae maes parcio ar ochr orllewinol yr LC. Os ydych yn prynu gweithgaredd LC, byddwn yn ad-dalu 50% o gost y maes parcio. Dyma ffioedd y maes parcio:
£2 - hyd at 2 awr (dim llai na hyn)
£3 - hyd at 3 awr
£4 - hyd at 4 awr (dim mwy na hyn)
Os cymerwch eich tocyn o unrhyw beiriant Talu ac Arddangos yn y maes parcio, ei roi yn eich cerbyd a chyflwyno'r tocyn copi i dderbynnydd yn yr LC wrth brynu eich gweithgaredd, byddwch yn derbyn 50% o'ch costau parcio'n ôl.
Mae safleoedd parcio ar gael i bobl anabl a coetsis/bysus.
